SL(5)468 – Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol a’u Symud ar draws Ffin) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn cywiro diffygion yn neddfwriaeth Cymru sy'n deillio o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd.  Maent yn sicrhau bod y llyfr statudau yng Nghymru yn parhau i fod yn gyfredol ac yn weithredol wedi i’r DU ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

Ystyriodd y Pwyllgor hwn Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol a’u Symud ar draws Ffin) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 ar 13 Mawrth 2019 – codwyd nifer o bwyntiau technegol yn yr adroddiad ar y Rheoliadau hynny. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor hwn ar 25 Mawrth 2019 ac yn yr ymateb hwnnw, derbyniodd Llywodraeth Cymru fod angen gwneud diwygiadau yn sgil llawer o'r materion a godwyd gan y Pwyllgor, ac mae’r diwygiadau hynny bellach yn cael eu gwneud gan y Rheoliadau hyn.

Gweithdrefn

Cadarnhaol.

Materion technegol: craffu

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae Rheoliad 2(6)(b) yn mewnosod cyfeiriad at Benderfyniad y Cyngor 2002/811/EC yn rheoliad 17(2)(g) o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 2002 (“Rheoliadau 2002”).  O dan reoliad 17(2)(g) o Reoliadau 2002, fel y'i diwygiwyd, rhaid i gais am gydsyniad i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig gynnwys cynllun monitro a baratowyd yn unol ag Atodiad VII o'r Gyfarwyddeb Gollwng yn Fwriadol, fel y'i darllenir gyda'r nodiadau cyfarwyddyd a gyflwynir ym Mhenderfyniad y Cyngor 2002/811/EC.

Gwneir diwygiadau i gyfraith berthnasol yr UE, y cyfeirir ati yn y Rheoliadau hyn, o dan Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019 (OS 2019/90) (mewn perthynas â Phenderfyniad y Cyngor 2002/812/EC, Penderfyniad y Cyngor 2002/813/EC a Phenderfyniad y Comisiwn 2003/701/EC), a Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anfeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2019 (OS 2019/705) (mewn perthynas â Rheoliad y Cyngor 1829/2003).  Ar ddyddiad yr adroddiad hwn, nid yw'n ymddangos bod unrhyw ddiwygiadau i ymdrin ag unrhyw ddiffygion o dan Benderfyniad y Cyngor 2002/811/EC, sy’n deillio o ganlyniad i ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd.

Mae'r nodiadau cyfarwyddyd ym Mhenderfyniad y Cyngor 2002/811/EC yn cynnwys cyfeiriad at y Comisiwn a'r Aelod-wladwriaethau, na fyddant i bob golwg yn gymwys ar ôl i’r Deyrnas Unedig ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.  At hynny, mae darpariaethau wedi'u cynnwys ym Mhenderfyniad y Cyngor 2002/811/EC sy'n debyg i'r rhai a gynhwysir yng nghyfraith berthnasol yr UE, ond dim ond y rhai olaf sydd wedi'u diwygio gan Reoliadau Ymadael â’r UE 2019 y cyfeirir atynt yn y paragraff blaenorol.

Cydnabyddir y bydd Penderfyniad y Cyngor 2002/811/EC yn gymwys hefyd y tu hwnt i Gymru ac mai’r Ysgrifennydd Gwladol oedd yn gyfrifol am wneud Rheoliadau Ymadael â’r UE 2019 y cyfeirir atynt yn y paragraff blaenorol.  Cydnabyddir hefyd fod yr OS cyfatebol ar gyfer Lloegr yn unig yn cynnwys darpariaeth sy'n cyfeirio at Benderfyniad 2002/811/EC.

Gofynnir am esboniad pam nad oes angen diwygio Penderfyniad y Cyngor 2002/811/EC.

Rhinweddau: craffu

Nodir y tri phwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

1.1  Cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae nifer o'r diwygiadau a wneir gan reoliad 2 yn cael yr effaith y bydd Rheoliadau 2002 yn defnyddio dau enw gwahanol i gyfeirio at yr hyn sydd bellach yr un person cyfreithiol, sef “[cyn]Gynulliad Cenedlaethol Cymru” a “Gweinidogion Cymru”.  Mae'r holl gyfeiriadau hyn i'w dehongli fel cyfeiriadau at Weinidogion Cymru, yn rhinwedd paragraffau 28 a 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.  Fodd bynnag, ni fydd hynny'n amlwg ar unwaith i'r rhai sy'n ceisio deall y ddeddfwriaeth.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu cysondeb o ran y cyfeiriadau yn y rheoliadau diwygiedig ac mae hyn yn gwella eglurder y gyfraith o ran y darpariaethau hynny.  Mae’r cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn parhau mewn mannau eraill yn Rheoliadau 2002, gan gynnwys at ddarpariaethau cysylltiedig a chyfagos (er enghraifft rheoliadau 23 a 24 o Reoliadau 2002) ac felly mae'r posibilrwydd o ddryswch yn parhau.

Yn ein barn ni, mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i newid pob cyfeiriad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru, lle bo hynny'n briodol, o dan baragraff 21 o Atodlen 7 i’r Ddeddf Ymadael â’r UE, gan y byddai newidiadau o'r fath yn atodol i ddarpariaeth a wneir o dan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i’r Ddeddf Ymadael â’r UE, neu'n gysylltiedig â darpariaeth o’r fath.

1.2  Cyfeiriadau at “shall”

Mae nifer o'r diwygiadau a wneir gan reoliad 2 yn cael yr effaith bod Rheoliadau 2002 yn defnyddio “shall” a “must”.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu cysondeb o ran y cyfeiriadau yn y rheoliadau diwygiedig ac mae hyn yn gwella eglurder y gyfraith o ran y darpariaethau hynny.  Mae’r cyfeiriadau at “shall” yn parhau mewn mannau eraill yn Rheoliadau 2002, gan gynnwys at ddarpariaethau cysylltiedig a chyfagos (er enghraifft rheoliadau 19 i 21 o Reoliadau 2002) ac felly mae posibilrwydd o ddryswch.

Yn ein barn ni, mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i newid pob cyfeiriad at “must”, lle bo hynny'n briodol, o dan baragraff 21 o Atodlen 7 i’r Ddeddf Ymadael â’r UE, gan y byddai newidiadau o'r fath yn atodol i ddarpariaeth a wneir o dan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i’r Ddeddf Ymadael â’r UE, neu'n gysylltiedig â darpariaeth o’r fath.

1.3  Y Memorandwm Esboniadol

Mae paragraff 1.2 o'r Memorandwm Esboniadol yn nodi'n anghywir mai'r diffiniad o’r diwrnod ymadael o dan yr Ddeddf Ymadael â’r UE ar 5 Tachwedd 2019 oedd 11.00pm ar 31 Hydref 2019, er bod y paragraff yn nodi bod y diffiniad yn debygol o newid yn y dyfodol agos.

Cafodd y diffiniad o’r diwrnod ymadael o dan Ddeddf Ymadael â’r UE ei ddiwygio gan Reoliadau Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (Diwrnod Ymadael) (Diwygio) (Rhif 3) 2019/1423 ar 30 Hydref 2019.

Y goblygiadau yn sgil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd 

Gwneir y Rheoliadau hyn er mwyn mynd i'r afael â methiannau cyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu'n effeithiol, a diffygion eraill sy'n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd.

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan y Llywodraeth.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

13 Tachwedd 2019